Dwi’n Fangladeshi trydedd genhedlaeth, wedi fy ngeni a’m magu ym Mirmingham. Symudodd fy mam-gu a’m tad-cu i’r DU yn y 1960au, ac mae eu hagwedd at waith a’u gwydnwch wedi dylanwadu’n sylweddol ar fy nhaith. Fy uchelgais hirdymor yw bod yn arweinydd ym maes technoleg feddygol, gan ddatblygu technolegau sy’n gwella gofal iechyd, wrth barhau i ysbrydoli myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes STEM.
Pan na fyddaf yn ymgolli yn fy ymchwil, rwy’n mwynhau mynd am dro hamddenol ar hyd y traeth, dod o hyd i gaffis clyd a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd yn y gegin.
BOD YN GYNRYCHIOLYDD PWNC
Dewisais i fod yn Gynrychiolydd Pwnc gan fy mod i’n frwdfrydig dros wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael dweud eu dweud – yn enwedig ar lefel PhD. Gan fy mod i wedi cael profiad uniongyrchol o ba mor unig a llethol gall astudio doethurol deimlo ar adegau, dwi am helpu i greu ymdeimlad o gymuned a sicrhau na fydd neb yn teimlo fel eu bod yn gwneud hynny ar eu pennau eu hunain. Mae bod yn y rôl hon yn fy ngalluogi i eirioli dros anghenion myfyrwyr a gweithio gyda staff i wneud ein hamgylchedd yn fwy cefnogol, cynhwysol a chydweithredol.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Fy mhrif gyfrifoldeb yw lleisio barn fy nghyd-fyfyrwyr drwy gasglu adborth ar eu profiadau a chodi pryderon â staff academaidd drwy gyfarfodydd ffurfiol a chyfathrebu’n rheolaidd. Dwi hefyd yn helpu i adnabod meysydd lle gellir gwella ein hamgylchedd ymchwil – gyda’r nod o wella lles academaidd a phersonol yn y gymuned PhD.
FY ASTUDIAETHAU PRESENNOL...
Yr hyn dwi’n ei garu fwyaf am fy nghwrs yw sut mae fy ymchwil yn cyd-fynd yn berffaith â’m nod hirdymor o ddatblygu technolegau meddygol sy’n gwella bywydau. Dwi’n ymchwilio i systemau trosglwyddo pŵer di-wifr ar gyfer dyfeisiau meddygol wedi’u mewnblannu – sef maes sy’n cyfuno peirianneg â chymwysiadau gofal iechyd yn y byd go iawn. Mae’n gyffrous gwybod y bydd fy ngwaith yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon o ran sut rydyn ni’n monitro ac yn trin cyflyrau critigol.