CROESO CYNNES I FYFYRWYR

Fel Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, mae'n bleser gennyf dy groesawu i Brifysgol Abertawe. Fel tîm o staff academaidd a gweinyddol, rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a dy helpu i ymgartrefu yma yn Abertawe.  

Bydd yr wythnosau nesaf yn llawn cyfleoedd cyffrous a phrofiadau newydd wrth i chi gwrdd â'ch darlithwyr, ymgyfarwyddo â’ch pynciau academaidd, ymuno â chlybiau a chymdeithasau a chreu ffrindiau gydol oes.  Rydym yma i helpu i ateb eich cwestiynau a’ch helpu chi i ymgartrefu.  Gobeithio y gallaf eich cyfarfod wyneb yn wyneb rhywbryd, ond am nawr dymunaf bob llwyddiant i chi am yr wythnosau a’r blynyddoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau a'ch cyfraniad i'n hysgol.

Yr Athro Richard Thomas,  Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu  

Llun o Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Richard Thomas