Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd eich amserlen Wythnos Groeso ar gael o ddydd Llun 8 Medi. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 29 Medi. 

Dydd Llun 23 Medi

10:00 - 11:00

Croeso i'r Rhaglen - Gorfodol

Adeilad Talbot, Ystafell 39

Yn y sesiwn hon bydd rhagor o wybodaeth am eich cwrs a sut byddwch chi'n astudio. Byddwch yn dechrau dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr ac yn ymgartrefu yn eich cymuned ddysgu.

 

11:00 - 12:00

Egwyl i gasglu cardiau llyfrgell

 

12:00 - 13:00

Sesiwn Wybodaeth - Gorfodol

Adeilad Talbot, Ystafell 39

Yn y sesiwn hon byddwch yn cael gwybodaeth werthfawr am eich dysgu.

 

13:00 - 14:00

Egwyl ginio *

 

14:00 - 16:00 

Sesiwn sefydlu ar y Rhaglen - Gorfodol

Adeilad Talbot, Ystafell 39

Cyfle i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen, a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs

 

*Ni ddarperir cinio

Dydd Mawrth 24 Medi Dydd Iau 26 Medi Dydd Gwener 26 Medi