Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd eich amserlen Wythnos Groeso ar gael o ddydd Llun 8 Medi. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 29 Medi. 

Dydd Mawrth 23 Medi

Cyfryngau Ôl-raddedig a Addysgir

10:00 - 11:00

Sgwrs Croeso i'r Rhaglen - Gorfodol

Adeilad Faraday, H

Cyfle i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen, a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs.

 

14:00 - 16:00

Sesiwn Ryngweithiol am y Rhaglen 

Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus - Adeilad Faraday Ystafell H

Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon - Adeilad Grove Ystafell 330

Newyddiaduraeth Ryngwladol - Adeilad Faraday, Ystafell

Yn y sesiwn hon bydd rhagor o wybodaeth am eich cwrs a sut byddwch chi'n astudio. Byddwch yn dechrau dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr ac yn ymgartrefu yn eich cymuned ddysgu.

 

Dydd Iau 25 Medi