Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd
Rwy’n falch iawn o estyn croeso cynnes iawn ichi i Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Ysgol y Gyfraith yn gymuned academaidd lewyrchus gyda myfyrwyr yn ganolog iddi. Ein nod yw cynnig addysg gyfreithiol o'r safon uchaf, gan arfogi ein graddedigion â sgiliau a phrofiad, ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth gyfreithiol gadarn. Yn ystod eich astudiaethau gradd byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau o fewn a thu allan i'r cwricwlwm. Yn eich wythnosau cyntaf gyda ni gallwch ddisgwyl cwrdd â'r timau gwasanaeth academaidd a phroffesiynol a fydd yn eich cefnogi trwy'ch astudiaethau. Yn benodol, byddwch yn cwrdd â'ch mentor academaidd a'i rôl yw darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth wrth i chi symud ymlaen trwy'ch astudiaethau gradd. Gobeithio eich bod chi mor gyffrous â ni, wrth i ni baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at groesawu ein holl fyfyrwyr newydd i'n cymuned yn Ysgol y Gyfraith. Welwn ni chi yn yr Wythnos Groeso!
Yr Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith HRC