Rydym am i bawb allu manteisio i'r eithaf ar fywyd yn y Brifysgol a theimlo'n hyderus yn defnyddio ein campysau, ein cyfleusterau a'n gwasanaethau.
Rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd cynhwysol lle gall myfyrwyr astudio, gweithio, cymdeithasu a chael cymorth heb rwystrau diangen. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, rydym yn adolygu ac yn gwella ein hadeiladau, ein cyfleusterau a'n mannau awyr agored yn rheolaidd er mwyn gwneud ein campysau mor hygyrch â phosib.
Cynllunio Eich Ymweliad gydag AccessAble
I'ch helpu i baratoi cyn cyrraedd y campws, rydym wedi cydweithio ag AccessAble i greu canllawiau hygyrchedd manwl i lawer o'n hadeiladau, ein gwasanaethau a'n cyfleusterau. Mae'r canllawiau hyn yn cynnig gwybodaeth ymarferol i'ch helpu i ddeall beth i'w ddisgwyl a chynllunio eich taith ymlaen llaw.
Byddwch yn gweld gwybodaeth am:
- Fynedfeydd hygyrch a llwybrau heb risiau
- Lleoliadau parcio a gollwng teithwyr
- Lifftiau a thoiledau hygyrch
- Mannau addysgu, astudio, chwaraeon a chymdeithasu
- Cynlluniau adeiladau a nodweddion hygyrchedd eraill
P'un a ydych chi'n newydd i'r Brifysgol, yn ymweld ag adeilad am y tro cyntaf neu mae gennych ofynion mynediad penodol, gall y canllawiau eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas ein campysau â mwy o hyder.
Ein Hymrwymiad Parhaus
Mae gwella hygyrchedd yn rhan bwysig o sut rydym yn datblygu ein campysau. Rydym yn parhau i ystyried bod hygyrchedd yn rhan o waith cynnal a chadw a phrosiectau adnewyddu a gwella'r campysau, gan helpu i sicrhau bod ein hystad yn datblygu i ddiwallu anghenion ein cymuned amrywiol.
Os oes gennych adborth ar sut gallwn wella hygyrchedd ar ein campysau, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. E-bostiwch campusdevelopment@abertawe.ac.uk.