Cydlynwyr Bywyd Preswyl (CBP)

Mae Cydlynwyr Bywyd Preswyl (CBP) yn gyfrifol am les myfyrwyr sy'n byw ar y campws, yma i gefnogi myfyrwyr yn fugeiliol, yn logistaidd, neu i gynorthwyo gyda ymholiadau cyffredinol i'w helpu i ddod o hyd i'w ffordd wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y brifysgol.

Bydd CBPs yn nodi ac yn ymgysylltu â myfyrwyr bregus a allai fod yn profi anawsterau yn y brifysgol i helpu i'w croesawu a'u cyflwyno'n esmwyth i gymuned myfyrwyr y brifysgol.

Mae Cydlynwyr Bywyd Preswyl hefyd yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu'r gwaith datblygu a'r gweithgareddau a arweinir gan Gynorthwywyr Bywyd Preswyl, gan ddarparu hyfforddiant a goruchwyliaeth i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gallu cefnogi myfyrwyr.

Shaina

Helo, Shaina ydw i. Mae'r tîm yn dîm newydd sbon, felly rwy'n edrych ymlaen at y ffaith y byddwn ni i gyd yn dysgu gyda'n gilydd. Mae'n cyfuno fy mhrofiad o astudio gwaith cymdeithasol a'm diddordebau mewn adeiladu cymuned a pherthnasoedd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld hyn yn dod i ffrwyth ar y Bae drwy'r myfyrwyr gwahanol y byddaf yn cwrdd â nhw, y digwyddiadau y bydd y tîm a'r campws yn eu cynnal, a'r gallu i fuddsoddi mewn rhywbeth rwy'n gwybod all ddod â bywyd i gampws y Bae.

Rwy'n hoffi archwilio Abertawe. Os oes gennych chi unrhyw leoedd bwyd lleol i'w hargymell, rhowch wybod i mi, rwyf bob amser yn chwilio am leoedd newydd i'w harchwilio! Cofiwch ddweud helo, rwy'n dwlu ar sgwrs da.

Shaina

Cari

Helo! Fy enw i yw Cari ac rydw i'n Gydlynydd Bywyd Preswyl newydd. Rydw i'n gyffroes i ddechrau yn y swydd hon, a dyma fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Rydw i wedi gweithio mewn llawer o brifysgolion eraill ac wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr, felly rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at wneud y swydd hon! Os welwch chi fi o gwmpas, dewch i ddweud helo. Pan nad ydw i yn y gwaith, rydw i'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser hamdden yn chwarae golff a rownders neu'n cerdded fy nghi, Hugo!

CAri

Sarah

Helo, Sarah ydw i. Ces i fy ngeni yn Affrica ac wedi byw yn Llundain. Rwyf wedi bod yn Abertawe ers 15 mlynedd ac rwyf wrth fy modd yma!

Rwy'n un o'r Cydlynwyr Bywyd Preswyl newydd ac rwyf mor gyffrous i ddechrau fy rôl ym Mhrifysgol Abertawe. Byddaf ar y Campws Bae prydferth, ac rwy'n methu aros i gwrdd â'r myfyrwyr a'u cefnogi i addasu i fywyd y brifysgol, a helpu i greu profiad cyfeillgar, cynhwysol a chroesawgar i bawb.

Yn fy amser hamdden, rwy'n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu, gwersylla, mynd i ŵyliau ac archwilio prydferthwch Cymru.

Sarah

Cynorthwywyr Bywyd Preswyl

Mae Cynorthwywyr Bywyd Preswyl yn fyfyrwyr gwirfoddol sy'n gweithio'n uniongyrchol o dan y Cydlynwyr Bywyd Preswyl, gan helpu i adeiladu cymuned ddiogel a chynhwysol i ddarparu ymdeimlad o berthyn drwy hyrwyddo a darparu gweithgareddau ar y campws i ddod â myfyrwyr at ei gilydd, yn enwedig y rhai mwyaf bregus/ynysig.

Fel rhan o'r Tîm Bywyd Preswyl, mae CBPs yn helpu i gynllunio a chyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau megis cynulliadau a gweithgareddau adeiladu cymunedol.

Yn bwysicaf oll, mae CBPs yn bresenoldeb cyfeillgar a chyson yn eich llety. P'un a ydych yn chwilio am rywun i sgwrsio ag ef, eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau, neu ddim ond angen ychydig o gymorth i setlo i mewn, mae RLA-au yn bresenoldeb cefnogol i droi ato.

Ble i gysylltu â ni Dydd Sul - Dydd Iau:

  • E-bost: res-life-coord@swansea.ac.uk
  • Derbynfa: Canolfan Wybodaeth y Tŵr, 17:00 – 22:00
  • Ystafell Gyffredin Gruffydd: (Gweithgareddau Dyddiol a The a Choffi am Ddim) 18:00 – 21:00