Rheoliadau Asesu Penodol ar Gyfer y Modiwl Rhagnodi Anfeddygol ar gyfer Fferyllwyr (Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol) – SHGM22
Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl unigol, a myfyrwyr sy’n astudio rhaglen lle mae'r modiwl yn bodoli fel rhan o ddyfarniad.
S1
Marc llwyddo ar gyfer holl rannau’r asesiad fydd 50%.
S2
Bydd methu sefyll arholiad/gwneud yn iawn am asesiad a fethwyd neu gyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a nodir gan y Brifysgol bydd yn arwain at gofnodi marc o 0% ar gyfer y gydran dan sylw.
S3
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy’n absennol o’r modiwl ail-wneud y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisiaeth.
S4
Mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu'r Brifysgol, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud yn iawn am ei fodiwl yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Cyfadran/Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfle asesu nesaf ar gyfer y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, ond o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisiaeth.
S5
Bydd ymgeiswyr sy’n methu cyflawni’r marc llwyddo mewn unrhyw ran o asesiad yn cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ac mae’n rhaid iddynt ailsefyll pob rhan o asesiad fel y nodir gan y Gyfadran/Ysgol oni bai fod ymarfer peryglus (gweler diffiniad isod) wedi’i nodi.
S6
Ni waeth beth fo'r gwir farc, bydd marciau'r holl asesiadau ailsefyll yn cael eu capio ar 50% neu'r marc pasio os yw hwn yn uwch. Ar gyfer unrhyw asesiad sy'n gofyn am farc pasio o 100%, y gwir farc fydd yn berthnasol. Ni fydd marciau ar gyfer cyflwyniadau cyntaf gohiriedig yn cael eu capio.
S7
Bydd ymgeisydd yn cael ei dynnu’n ôl o’r Brifysgol os yw’n methu rhan o asesiad ar yr ail ymgais.
S8
Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw ran o asesiad y mae marc llwyddo eisoes wedi’i ennill ar ei gyfer.
S9
Bydd ymgeiswyr y mynnir eu bod yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn trwy weithdrefnau ar Gywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu'r gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd. Ni fydd hawl apelio gan fyfyriwr sydd wedi’i dynnu’n ôl oherwydd ymarfer peryglus.