Polisi ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) wrth Asesu Myfyrwyr
1. Cyflwyniad a Diben
Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r arweiniad a'r egwyddorion ar gyfer defnyddio cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) gan gynnwys deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, mewn asesiadau a rhaglenni ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y polisi hwn yw hyrwyddo defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn modd moesegol, tryloyw a theg, gan sicrhau bod ei fanteision posib yn cael eu defnyddio wrth leihau'r risgiau a'r heriau cysylltiedig o ran cynnal safonau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod staff y cyfadrannau, myfyrwyr a holl staff y gwasanaethau proffesiynol sy'n rhan o waith asesu a/neu'r defnydd o dechnolegau deallusrwydd artiffisial yn y Brifysgol a'i rhaglenni.
Rhennir cyngor ac arweiniad sy'n seiliedig ar dystiolaeth â rhanddeiliaid. I fyfyrwyr Arweiniad ar Ddeallusrwydd Artiffisial - Prifysgol Abertawe i staff Arweiniad Uwch ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) i staff - Prifysgol Abertawe
Mae'r polisi'n cefnogi gweledigaeth a diben strategol y Brifysgol Gweledigaeth ac uchelgais - Prifysgol Abertawe “galluogi atebion lleol i'r heriau byd-eang sy'n effeithio ar bawb”.
2. Egwyddorion Allweddol
- Bydd Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr ac yn cefnogi myfyrwyr a staff i fod yn hyddysg mewn Deallusrwydd Artiffisial.
- Mae Prifysgol Abertawe'n ymddiried yn ei myfyrwyr i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn modd moesegol a thryloyw.
- Rhoddir y sgiliau y mae eu hangen ar staff i gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yn effeithiol ac yn briodol yn ystod eu profiad dysgu.
- Bydd Prifysgol Abertawe'n addasu addysgu ac asesu i ymgorffori defnydd moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol a chefnogi mynediad cyfartal.
- Bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod trylwyredd, uniondeb a safonau academaidd yn cael eu cynnal.
- Bydd Prifysgol Abertawe'n cydweithredu i rannu arfer da wrth i'r dechnoleg a'i chymwysiadau ym myd addysg ddatblygu.
(wedi'u mabwysiadu o Egwyddorion Grŵp Russell ar ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol ym myd addysg)
3. Defnydd moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial
i. Mae'n Rhaid i holl ddefnyddwyr cymwysiadau deallusrwydd artiffisial yn y Brifysgol a'i rhaglenni lynu wrth yr egwyddorion moesegol, parchu hawliau dynol, a diogelu data.
ii. Dylai’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial gyd-fynd â chenhadaeth, gwerthoedd a nodau academaidd y Brifysgol, gan gefnogi swyddogaethau addysgu, dysgu, ymchwil a gweinyddu.
iii. Ni ddylai ymagweddau sy'n cynnwys defnyddio systemau Deallusrwydd Artiffisial wahaniaethu yn erbyn unigolion neu grwpiau ar sail nodweddion sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith, megis hil, rhywedd, ethnigrwydd, crefydd, anabledd neu statws economaidd-gymdeithasol.
iv. Ni chaniateir i staff a myfyrwyr gyflwyno gwaith a gwblhawyd gan gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial fel eu gwaith eu hunain heb gydnabod y ffaith.
4. Tryloywder, Cywirdeb, Tegwch a Bias
i. Dylai'r holl gymwysiadau deallusrwydd artiffisial a ddefnyddir gan y Brifysgol a'i rhaglenni fod yn dryloyw ac yn hygyrch i bawb. Dylai defnyddwyr fod â dealltwriaeth glir o sut mae systemau deallusrwydd artiffisial yn gwneud penderfyniadau a'r algorithmau sy'n sail i hyn, gan gynnwys y risgiau, y cyfyngiadau a'r tueddiadau yn yr algorithmau hyn..
ii. Anghywirdeb gwybodaeth: mae offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yn casglu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau ac mae rhai o'r rhain yn anghywir, yn cynnwys camwybodaeth neu'n anghyflawn. Gall y mewnbynnau a'r gorchmynion gan ddefnyddwyr fod yn aneglur neu'n anghywir. Felly, mae hyn yn golygu y gall canlyniadau ac allbynnau sy'n deillio o offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol fod yn anghywir, yn amherthnasol neu'n gamarweiniol. Dylai defnyddwyr bob amser sicrhau cywirdeb y canlyniadau sy'n deillio o offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol.
iii. Bydd monitro gweithredol a lliniaru tuedd mewn systemau deallusrwydd artiffisial a'u defnydd yn y Brifysgol a'i rhaglenni i sicrhau tegwch ac atal gwahaniaethu
iv. Bydd y brifysgol yn darparu'r addasiadau a'r gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau bod mynediad teg at adnoddau a gwasanaethau sy'n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial.
5. Llywodraethu data a phreifatrwydd
i. Rhaid i unrhyw ddefnydd o gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data perthnasol (GDPR).
ii. Ni ddylai staff na myfyrwyr fewnbynnu gwybodaeth adnabyddadwy i unrhyw gymhwysiad Deallusrwydd Artiffisial.
iii. Dylid ceisio'r caniatâd priodol cyn caffael unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu a/neu ei ddadansoddi gan systemau Deallusrwydd Artiffisial i sicrhau preifatrwydd a chyfrinachedd.
iv. Ni chaniateir i staff na myfyrwyr lanlwytho asesiad myfyriwr neu unrhyw ddata adnabyddadwy heb ganiatâd ysgrifenedig penodol, i gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial am unrhyw reswm (gan gynnwys ymdrechion i wirio am gynnwys sydd wedi'i gynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial).
6. Dylunio Asesiadau a Chynnal Safonau Academaidd
i. Bydd y Brifysgol yn caniatáu defnyddio cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial mewn asesiadau lle bydd hyn yn briodol ac yn berthnasol i wella dysgu myfyrwyr.
ii. Dylunnir asesiadau i sicrhau bod uniondeb a safonau'n cael eu cynnal pan fydd gan fyfyrwyr fynediad at Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol, heb aberthu pwysigrwydd na dilysrwydd asesu ac arfer addysgegol.
iii. Bydd y Polisi Asesu, Marcio ac Adborth, y Polisi Prawf-ddarllen a'r Polisi Camymddygiad Academaidd yn cyfeirio at ddefnydd priodol o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn asesiad, gan esbonio risgiau a chanlyniadau defnydd amhriodol i fyfyrwyr.
7. Eiddo Deallusol
i. Caiff hawliau eiddo deallusol mewn perthynas â gwaith a gynhyrchir yn gyflawn neu'n rhannol gan ddeallusrwydd artiffisial eu hegluro a'u diffinio gan Bolisïau Eiddo Deallusol y Brifysgol.
8. Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol
Darperir hyfforddiant, cymorth a chyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol i staff a myfyrwyr sy'n datblygu, cyflwyno neu ddefnyddio technolegau Deallusrwydd Artiffisial gan y Brifysgol.
Dylai hyfforddiant ganolbwyntio ar hyrwyddo defnydd effeithiol, ymwybyddiaeth o ystyriaethau moesegol, preifatrwydd data, bias algorithmig a phynciau perthnasol eraill.
9. Cydymffurfiaeth â Pholisi ac Adolygiad
Os bydd unigolyn yn methu cydymffurfio â'r polisi hwn, rhoddir gwybod am hyn i'r Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
Yn y cyfamser, oherwydd cyfradd y newidiadau yn y maes hwn, mae'n debygol y bydd y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru’n aml i gynnal safonau.
Caiff y polisi hwn ei adolygu'n ffurfiol o leiaf unwaith bob blwyddyn.