Rheoliadau Cyffredinol
RHEOLIADAU CYFFREDINOL - DYFARNIADAU ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR
1. Cyflwyniad
1.1
Gall myfyrwyr gymhwyso am ddyfarniad Prifysgol Abertawe dan y rheoliadau hyn pan fyddant wedi cwblhau un o’r rhaglenni astudio cymeradwy canlynol yn llwyddiannus: Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Radd Meistr (MA, MSc, LLM, MBA, MFin). Gall myfyrwyr ddilyn rhaglen llawn amser neu ran-amser neu gyfuniad o’r ddau (modd mynychu cymysg).
1.2
Caiff pob rhaglen Meistr ei hasesu drwy arholiad/gwaith cwrs a thrwy gyflwyno darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
Diffinnir dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fel darn unigol neu sawl darn o ddysgu hunangyfeiriedig (a wneir dan gyfarwyddyd goruchwyliwr) sy'n cynnig cyfanswm o 60 credyd, sy'n darparu cyfle i ymgymryd ag ymchwil estynedig i un agwedd neu fwy ar faes llafur y rhaglen. Gall y gwaith annibynnol fod ar sawl ffurf, a ddewisir i gydweddu orau â'r rhaglen a/neu i wella rhagolygon cyflogadwyedd y myfyrwyr. Gellir diffinio hyn wrth gymeradwyo'r rhaglen, a bydd yn gyfwerth â'r ymdrech sydd ei hangen i baratoi traethawd hir o hyd at 20,000 o eiriau.
1.3
Rhaid i bob myfyriwr gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a thalu'r ffioedd priodol a ragnodir gan y Brifysgol. Rhaid i fyfyrwyr cofrestredig gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.4
Fel arfer*, ni chaniateir i fyfyrwyr llawn amser sy'n gwneud cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu Radd Meistr gofrestru’n gydamserol ar raglen Dystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu radd Meistr arall** sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
*Yn ystod cyfnod y Pandemig Covid-19, a hyd nes y bydd yr Is-Ganghellor yn penderfynu bod yr effaith wedi'i lliniaru'n ddigonol, bydd y rheoliad HWN yn cael ei atal ar gyfer myfyrwyr o India yn benodol sydd wedi cael cynigion diamod ar gyfer rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir os yw penderfyniad Goruchaf Lys India i ohirio neu ganslo Arholiadau Gradd Cyntaf/Baglor myfyrwyr yn effeithio arnynt:
Yn ystod y cyfnod hwn yn unig, ac ar gyfer y myfyrwyr a nodwyd yn benodol, gellir ystyried bod y myfyrwyr hyn wedi'u cofrestru’n gydamserol fel bod modd iddynt ymuno â Phrifysgol Abertawe a chwblhau eu hasesiadau Israddedig yn India. Wrth gofrestru, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr lofnodi cytundeb uwch sy'n cyfeirio at eu cofrestriad cydamserol dros dro.
**Mae aelodau staff sydd wedi cofrestru ar PGCtHE fel amod cyflogaeth neu gyfnod prawf wedi cael eu heithrio o'r rheoliad cofrestru cydamserol uchod.
Mae myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni ar y cyd rhwng Abertawe a sefydliad arall wedi'u heithrio o'r rheoliad cofrestru cydamserol uchod i'r graddau y mae'n ymwneud â chofrestru cydamserol yn y sefydliad(au) partner ar gyfer yr un rhaglen.
1.5
Fel rheol, bydd ymgeisyddiaeth myfyrwyr sy'n torri Rheoliad 1.3 uchod yn cael ei dileu ar unwaith.
1.6
Caiff Cyfadrannau/Ysgolion, sy'n destun achredu proffesiynol a/neu ofynion Corff Noddi, ddefnyddio rheoliadau mwy llym ar yr amod bod y myfyrwyr wedi'u rhybuddio ymlaen llaw a bod hyn yn ofyniad y Corff Proffesiynol neu’r Corff Noddi.
2. Amodau Derbyn
2.1
Rhaid i fyfyriwr am ddyfarniad ôl-raddedig a addysgir feddu ar un o’r cymwysterau canlynol cyn dechrau astudio:
-
- Gradd Baglor gychwynnol (2:2 neu uwch fel arfer) neu radd Meistr o Brifysgol yn y DU.
- Gradd Baglor gychwynnol (2.2 neu uwch fel arfer) neu Radd Meistr o Brifysgol gydnabyddedig, yn Ewrop neu dramor, a gymeradwywyd eisoes neu a gymeradwyir wedyn gan UK ENIC.
- Gradd Baglor gychwynnol (2.2 neu uwch) neu radd Meistr o Brifysgol gydnabyddedig, yn Ewrop neu dramor, a gymeradwywyd gan Is-bwyllgor Matriciwleiddio’r Brifysgol.
- Cymhwyster nad yw’n radd, y tybia'r Brifysgol ei fod gyfwerth â gradd.
Ar ben hynny, mae'n bosibl y bydd amodau derbyn mwy llym neu fwy penodol ar gyfer rhai rhaglenni oherwydd gofynion Corff Proffesiynol neu Gorff Noddi.
Gall amodau’r cynnig gynnwys gofynion sy'n ymwneud â matriciwleiddio (gweler Rheoliadau 2.7 a 2.8 isod).
2.2
Os nad oes gradd israddedig gan ymgeiswyr am raglenni ôl-raddedig a addysgir, rhaid iddynt feddu ar brofiad gwaith perthnasol sylweddol neu brofiad arall sydd, ym marn y Dewiswyr Derbyn, yn briodol ar gyfer derbyn yr ymgeiswyr i’r rhaglen berthnasol.
2.3
Dylai darpar fyfyriwr sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster ar lefel doethuriaeth (gan gynnwys PhD, y Ddoethuriaeth Beirianneg a Doethuriaethau a Addysgir ac ati) ddangos bod y rhaglen ôl-raddedig a addysgir y mae'n bwriadu ei dilyn mewn maes gwahanol i'r maes y dyfarnwyd y radd ddoethurol ar ei gyfer.
2.4
Ni waeth beth yw cymwysterau mynediad y myfyriwr, mae’r Brifysgol yn cadw'r hawl i fodloni ei hun bod myfyriwr yn cyrraedd y safon academaidd sy’n ofynnol i gwblhau’r rhaglen astudio arfaethedig.
2.5
Cyn derbyn myfyrwyr i’r rhaglen astudio, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau y gall y myfyriwr gyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd profion TOEFL neu IELTS (neu brofion cyfatebol) yn berthnasol, a gellir cael arweiniad gan y Swyddfa Derbyn ynghylch y lefel lwyddo sy’n briodol ar gyfer astudiaeth benodol neu’r addysgu cyn y cwrs a allai fod yn angenrheidiol cyn caniatáu i fyfyriwr ddechrau rhaglen astudio ôl-raddedig. Mae’r Brifysgol yn gosod lleiafswm o 6.5 dan IELTS (neu brawf cyfatebol) ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Gellir cyflwyno cais i'r Pwyllgor Derbyn i osod lefel is neu uwch.
2.6
Rhaid i fyfyrwyr ddatgelu unrhyw broblem o ran cymeriad neu addasrwydd, yn unol â gofynion y Brifysgol neu ofynion eraill mewn perthynas â'u rhaglen astudio. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw darparu unrhyw dystiolaeth y tybia ei bod yn angenrheidiol ac yn briodol i alluogi'r Brifysgol i benderfynu ar ei gais. Os na fydd myfyriwr yn datgelu problem o ran cymeriad neu addasrwydd, neu dystiolaeth sy'n angenrheidiol ac yn briodol i alluogi'r Brifysgol i benderfynu ar gais, gall y Brifysgol dynnu myfyriwr yn ôl o raglen neu beidio â derbyn myfyriwr i raglen astudio.
2.7
Ystyr matriciwleiddio yw derbyn myfyriwr yn ffurfiol i raglen astudio sy’n arwain at radd neu ddyfarniad academaidd arall y Brifysgol. Rhaid i fyfyrwyr nad ydynt wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe o'r blaen ddarparu tystiolaeth o'u gradd neu gymhwyster cyfatebol yn unol â chais y Swyddfa Derbyn. Bydd y dystiolaeth hon ar ffurf tystysgrif Baglor swyddogol neu drawsgrifiad swyddogol sy'n cadarnhau dyfarnu'r radd.
2.8
Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cael cymhwyster cydnabyddedig o sefydliad 'cymeradwy' (fel y'i nodir gan UK ECCTIS). Os nad yw sefydliad penodol yn cael ei gydnabod, rhaid i'r Swyddfa Derbyn gyflwyno achos arbennig i Gadeirydd y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn a fydd yn penderfynu a yw'r cymwysterau sydd wedi'u cyflwyno yn dderbyniol ai peidio. Os caiff achos penodol ei wrthod, byddai’r cynnig o le i'r myfyriwr (a fyddai wedi bod yn amodol ar gymeradwyo ei gymwysterau) yn cael ei dynnu yn ôl a/neu ystyrir bod y myfyriwr yn anghymwys i gofrestru.
2.9
Ystyrir bod myfyrwyr yn anghymwys i gofrestru pan nad ydynt yn bodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio (gweler Rheoliadau 2.7 a 2.8 uchod). Pan ystyrir bod y myfyriwr yn anghymwys i gofrestru a/neu ei fod yn methu â chofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd hyn yn arwain at ymgeisyddiaeth y myfyriwr yn dod i ben a thynnu'r myfyriwr o'r Brifysgol (gweler Rheoliad 4 hefyd).
Monitro'r Polisi Newydd
Cedwir yr hawl i fonitro'r polisi, a hynny heb gyfyngiadau, i ddilysu tystiolaeth yn annibynnol gan ddefnyddio Gwasanaeth Gwirio Cymwysterau neu wiriad data Gradd Addysg Uwch neu gyfwerth. At ddibenion asesu cyflwyno'r polisi newydd, bydd 5% o'r myfyrwyr newydd yn cael eu dilysu'n annibynnol.
2.10
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
3. Dyddiadau Dechrau
3.1
Gall Cyfadrannau/Ysgolion gynnig dyddiadau mynediad lluosog ar gyfer rhai rhaglenni, ar yr adegau canlynol yn ystod y flwyddyn: Medi, Ionawr, Mai a Mehefin. Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion nodi dyddiadau mynediad fel rhan o holl lenyddiaeth eu rhaglenni.
4. Cofrestru
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob myfyriwr gofrestru er mwyn cael ei gydnabod yn fyfyriwr yn y Brifysgol. Dylai pob myfyriwr gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.2
Rhaid i fyfyrwyr gofrestru o fewn y cyfnod cofrestru penodedig:
- Os ydynt yn cofrestru yn y Brifysgol am y tro cyntaf
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf
- Os ydynt yn camu ymlaen i lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, rhan nesaf eu hastudiaethau, ac yn mynychu’n llawn amser neu’n rhan amser
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol sy'n berthnasol i gyllid a ffïoedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr, lle bynnag y bo'n briodol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen.
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio.
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
- Rheoliadau addasrwydd i ddychwelyd i astudio.
4.4
Os nad yw'r myfyriwr yn darparu tystiolaeth foddhaol o hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â Rheoliad 4.3 uchod ac erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Gwasanaethau Addysg, ystyrir bod y myfyriwr yn anghymwys i gofrestru (oni bai bod Rheoliad 4.5 isod yn berthnasol).
4.5
Pan fydd y myfyriwr yn bodloni’r holl ofynion i gofrestru (yn unol â Rheoliad 4.3), oni bai am ofynion llywodraethu matriciwleiddio’r Brifysgol, gall y myfyriwr, yn ôl disgresiwn y Swyddfa Derbyn, gael caniatâd i gofrestru dros dro am gyfnod penodol o amser, cyhyd â bod y myfyriwr yn cytuno i fodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio erbyn y dyddiad a bennir gan y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr. Os yw’r myfyriwr wedyn yn methu â bodloni gofynion y Brifysgol ynghylch matriciwleiddio erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Swyddfa Derbyn, bydd y cofrestriad dros dro yn dod i ben, ac ystyrir bod y myfyriwr yn anghymwys i gofrestru, a bydd Rheoliad 4.6 isod yn berthnasol.
4.6
Os na fydd yr ymgeisydd yn gallu cofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd hyn yn golygu bod ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn dod i ben a bydd rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol am nad yw wedi cofrestru.
4.6.1 Derbyn myfyriwr yn ôl a chaniatâd i gofrestru'n hwyr
Gwneir y penderfyniad i gymeradwyo neu beidio â chymeradwyo caniatâd i gofrestru'n hwyr gan y Pennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai. I ofyn am ganiatâd i gofrestru'n hwyr, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno ffurflen Caniatâd i Gofrestru o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost i'r myfyriwr yn cadarnhau ei fod wedi'i dynnu’n ôl am beidio â chofrestru.
Wrth ystyried ceisiadau o'r fath, bydd Pennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai yn ystyried y canlynol:
Amseru'r cais; yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais hwyr; argymhellion gan gyfadran/ysgol y myfyriwr; gofynion cyfreithlon ac ariannol y cofrestriad; y gyfraith sy'n llywodraethu'r hawl i astudio yn y brifysgol; amodau fisa’r myfyriwr a/neu benderfyniad i ddiddymu’r fisa (lle bo'n briodol); argymhellion gan reolwyr derbyn/cydymffurfio/cyllid/cofnodion myfyrwyr (lle bo'n briodol).
4.6.2 Adolygiad terfynol
Er mwyn gofyn am adolygiad gweinyddol o'r penderfyniad i beidio â chymeradwyo derbyn myfyriwr yn ôl a chaniatâd i gofrestru'n hwyr, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno Ffurflen Adolygu Gweinyddol. Bydd adolygiad a phenderfyniad terfynol yn cael eu gwneud gan Gyfarwyddwr Cyswllt Gweithrediadau Myfyrwyr neu ei enwebai.
4.7
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.8
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglen a ddarperir mewn partneriaeth â sefydliad arall gofrestru gyda'r Brifysgol a’r sefydliad partner yn unol â'r gweithdrefnau cofrestru a gyhoeddir gan y sefydliad partner unigol a’r Brifysgol.
4.9
Mae myfyrwyr sy'n gwneud cais am le ar raglenni ar-lein yn unig yn anghymwys i gael CAS i wneud cais am fisa myfyriwr UKVI. Fel arfer, bydd myfyrwyr rhyngwladol sy'n gwneud cais yn gorfod talu ffioedd rhyngwladol. Bydd statws ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a allai fod yn y DU yn barod o dan gategori mewnfudo gwahanol yn cael ei asesu gan y tîm Derbyn fel rhan o'r broses ymgeisio. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra Ffioedd Cartref Cymru ar gael ar wefan Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU (UKCISA) yma.
4.10
Drwy gwblhau'r broses gofrestru, bydd myfyrwyr yn cadarnhau y byddant yn cydymffurfio â rheoliadau'r sefydliad(au) dan sylw ac, yn achos rhaglenni a ddarperir ar y cyd â phartneriaid, yn cadarnhau y byddant yn cydymffurfio â rheoliadau'r ddau sefydliad, gan adlewyrchu eu statws fel myfyrwyr cofrestredig ym mhob sefydliad.
5. Strwythur Rhaglenni
5.1
Mae rhaglen Meistr a Addysgir yn gasgliad o gydrannau addysgol unigol y bernir bod eu lefel academaidd a’u cynnwys yn briodol ar gyfer y dyfarniad mewn maes pwnc penodol.
5.2
Gall myfyrwyr fod yn gymwys i ennill dyfarniad os byddant wedi cwblhau rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy yn llwyddiannus, naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser. Dylai cynnwys academaidd rhaglen ran-amser fod yn gyfwerth â chynnwys academaidd rhaglen llawn amser, a rhaid i’r asesiad gynnwys darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
| Tystysgrif Ôl-raddedig | 60 credyd. |
|---|---|
| Diploma Ôl-raddedig | 120 credyd. |
| Gradd Meistr Safonol | 180 credyd (120 credyd mewn modiwlau a addysgir yn Rhan Un a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn Rhan Dau). |
| Gradd Meistr Estynedig | 240 credyd (120 credyd mewn modiwlau a addysgir yn Rhan Un a 60 credyd mewn modiwlau a addysgir neu fodiwlau lleoliad a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn Rhan Dau). |
| Gradd Meistr Hyblyg | 180 credyd (120 credyd mewn modiwlau a addysgir yn Rhan Un a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, i'w hastudio naill ai ar yr un pryd â'r modiwlau a addysgir, mewn modd strwythuredig ac ar wahân, neu fel elfen gynhenid o'r elfennau a addysgir). |
5.4
Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion bennu strwythur a dull cyflwyno rhaglen pan gymeradwyir y rhaglen. Mae angen manylu ar strwythur a chyflwyniad y rhaglen yn llawlyfr y rhaglen hefyd.
5.5
Rhaid i bob Rhaglen Meistr Ôl-raddedig a Addysgir gynnig 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, neu ddewis amgen cymeradwy a awdurdodwyd gan y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
6. Categorïau o Fyfyrwyr
6.1
Bydd y categorïau canlynol o fyfyrwyr yn cael eu cydnabod:
- Myfyrwyr llawn amser.
- Myfyrwyr rhan-amser (sydd fel rheol yn astudio am 60 neu lai o gredydau'r flwyddyn).
- Myfyrwyr allanol (myfyrwyr y caniateir iddynt, yn eithriadol, gofrestru er mwyn sefyll arholiadau yn unig)
- Aelodau staff sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr.
- Myfyrwyr cyswllt (myfyrwyr nad ydynt yn dilyn rhaglen a enwir ond sy'n astudio modiwlau unigol) neu fyfyrwyr Cyfnewid sy'n astudio modiwlau Lefel 7.
- Myfyrwyr ar-lein/dysgu o bell (myfyrwyr llawn amser neu ran-amser sy'n dilyn rhaglenni a gynigir ar-lein yn unig).
7 Modiwlau o Fewn Rhaglen
7.1
Cydran addysgol unigol o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd pob rhaglen yn cynnwys modiwlau a addysgir. Yn achos Rhaglenni Meistr, bydd hefyd 60 credyd ychwanegol o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu drefniant amgen a gymeradwywyd.
7.2 Yn ogystal, ar gyfer pob modiwl:
- Dynodir cod cyfeirio unigryw.
- Caiff pob modiwl ei aseinio i lefel astudio sy’n adlewyrchu safon academaidd y modiwl a’i ddeilliannau dysgu.
- Caiff credydau’r System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) eu pennu iddo (yn fras, mae 10 credyd yn y system honno yn gyfwerth ag 20 credyd Prifysgol Abertawe).
- Gall modiwl fod â rhagofynion a/neu gyd-ofynion.
7.3
Gellir grwpio modiwlau yn y categorïau canlynol: modiwlau sydd wedi’u seilio ar ddarlithoedd; modiwlau sydd wedi’u seilio ar waith ymarferol; ymarfer allanol; dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd; traethawd hir; gwaith cyfrifiadurol; gwaith maes; lleoliad; dysgu yn y gweithle neu gyfuniad priodol o’r categorïau hyn (modiwl cyfansawdd).
7.4
Bydd pob modiwl ar gyfer unrhyw gymhwyster a gynigir dan y rheoliadau hyn yn cyfateb i Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
8. Modiwlau Gorfodol
8.1
Bydd modiwlau gorfodol, a fydd yn cael eu pennu gan y Gyfadran/Ysgol(ion) dan sylw, yn perthyn i’r rhan fwyaf o raglenni gradd. Dylai modiwlau o'r fath gael eu nodi gan Gyfadrannau/ Ysgolion a'u rhestru yn llawlyfrau'r Gyfadran/Ysgol.
9. Modiwlau Dewisol
9.1
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio modiwlau dewisol o restr o opsiynau a bennir yn y maes (neu feysydd) pwnc arbenigol. Dylai myfyrwyr ofyn am arweiniad y Gyfadran/Ysgol ‘gartref’ wrth ddewis y modiwlau dewisol.
10. Modiwlau Craidd
10.1
Gall Ysgolion/Cyfadrannau nodi modiwlau sy’n greiddiol i raglen. Gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu bod rhaid i fyfyriwr astudio'r modiwlau ‘Craidd’ hynny a llwyddo ynddynt cyn y gall symud ymlaen i ran nesaf y rhaglen astudio neu fod yn gymwys i ennill y dyfarniad. Rhaid gwneud iawn am unrhyw fodiwlau craidd sy’n cael eu methu.
11. Modiwlau Amgen
11.1
Fel rheol, caiff y modiwlau hyn eu hastudio yn lle modiwlau a fethwyd o'r blaen (ar y cais cyntaf yn unig). Caiff myfyrwyr wneud cais i'w Cyfadran/Ysgol gartref am ganiatâd i ddilyn modiwl(au) amgen. Bydd y marc ar gyfer modiwl amgen yn cael ei gapio, ni waeth beth yw'r marc mewn gwirionedd.
12. Newid Modiwl
12.1
Caiff myfyrwyr newid o un modiwl i fodiwl arall ar yr amod bod y trosglwyddiad yn cael ei gymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol(ion) perthnasol o fewn yr amserlen ganlynol:
- Modiwlau dwys byr (2 wythnos) cyn diwedd yr ail ddiwrnod o addysgu ar y modiwl dan sylw.
- Modiwlau byr (11 wythnos) cyn diwedd yr ail wythnos o addysgu ar y modiwl dan sylw.
- Modiwlau hir (22 wythnos) cyn diwedd y bedwaredd wythnos o addysgu ar y modiwl dan sylw.
12.2
Dim ond mewn achosion eithriadol a chyda chymeradwyaeth Cadeirydd Pwyllgor Addysg y Gyfadran/Ysgol y cymeradwyir newid y tu allan i’r terfynau amser hyn.
12.3
Disgwylir i fyfyrwyr ddilyn y gweithdrefnau newid a fabwysiadwyd gan Senedd y Brifysgol ac sydd mewn grym ar y pryd.
12.4
Nid yw newid modiwl ar gael fel arfer ar gyfer rhaglenni ar-lein yn unig. O dan amgylchiadau eithriadol, dylid ymgynghori â chyfarwyddwr y rhaglen.
13. Newid y Dull Astudio
13.1
Gellir caniatáu i fyfyrwyr llawn amser a rhan-amser ar gwrs ôl-raddedig a addysgir newid eu dull mynychu cyn dechrau eu rhaglen radd, ar yr amod nad yw hynny’n groes i reolau sy’n berthnasol i fisâu a nawdd/ysgoloriaethau ymchwil. Gall myfyrwyr llawn amser a rhan-amser newid eu dull mynychu rhwng un a phedair wythnos ar ôl dechrau eu rhaglen gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol neu ei benodai. Cynghorir myfyrwyr sydd eisiau newid eu dull astudio y tu hwnt i'r terfynau amser hyn ohirio eu hastudiaethau a dychwelyd yn y sesiwn academaidd nesaf. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth benodol y Deon Gweithredol neu ei enwebai, gellir cyflwyno achos i'r Gwasanaethau Addysg a fydd yn ystyried yr achos yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
13.2
Gellir caniatáu i fyfyrwyr ar-lein yn unig newid eu dull astudio cyn dechrau eu rhaglen radd, ar yr amod nad yw hynny'n groes i reolau sy'n berthnasol i noddwyr/ysgoloriaethau ymchwil. Gall myfyrwyr llawn amser newid eu dull astudio i ran-amser rhwng 1 neu 4 wythnos o ddechrau eu rhaglen gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol neu ei benodai. Gall myfyrwyr rhan-amser newid eu dull astudio i lawn amser rhwng 1 neu 4 wythnos o ddechrau eu rhaglen gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol neu ei benodai, a rhoddir sylw priodol i'r amser sy'n weddill ym mloc astudio dysgu ar-lein cyntaf y myfyriwr, yn ogystal ag unrhyw ofynion asesu parhaus sydd i'w bodloni o fewn yr amser hwnnw. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n dymuno newid eu dull astudio y tu hwnt i'r dyddiadau cau hyn yn cael eu cynghori i aros am y bloc astudio dysgu ar-lein nesaf er mwyn ymgymryd â'r llwyth cwrs gofynnol ar gyfer cwrs llawn amser (40 credyd fesul bloc astudio dysgu ar-lein fel arfer) neu ran-amser (20 neu 30 credyd fesul bloc astudio dysgu ar-lein fel arfer). Bwriad hyn yw sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o nifer y credydau maen nhw wedi'u cyflawni a nifer y credydau sy'n weddill. Rhaid hysbysu myfyrwyr y gallai hyn ymestyn hyd eu rhaglen.
14. Newid Rhaglen
14.1
Fel rheol, ni chaniateir i fyfyrwyr ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir newid eu rhaglen astudio oni bai bod y newid hwnnw o fewn rhaglen sy’n cynnig opsiynau arbenigol amrywiol. O dan amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd modd caniatáu i fyfyrwyr ôl-raddedig newid rhaglen astudio os, ar ôl ymgynghori â'r Deon Gweithredol neu ei benodai (y Gyfadran/Ysgol gartref fel arfer), teimlir bod y trosglwyddiad er budd pennaf y myfyriwr. Fel rheol, bydd trosglwyddiadau o’r fath yn digwydd cyn diwedd y pythefnos cyntaf ar ôl dyddiad dechrau'r rhaglen. I fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni a gynigir ar-lein yn unig, ni chaniateir trosglwyddiadau fel arfer oni bai eu bod yn digwydd fel rhan o raglen sy'n cynnig opsiynau arbenigedd ar-lein amrywiol yn unig. Yn ystod y broses gymeradwyo, rhoddir sylw priodol i'r gofynion derbyn a'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â'r newid, gan gynnwys barn/amodau noddwyr (gan gynnwys ysgoloriaethau ymchwil).
14.2
Rhaid sicrhau bod pob myfyriwr sy'n newid rhaglen ar ôl ail wythnos y flwyddyn gyntaf o astudio yn cael cymeradwyaeth weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, mewn ymgynghoriad â'r Gyfadran/Ysgol. Fel rheol, ni fydd ceisiadau i newid rhaglen ar ôl pedair wythnos gyntaf y rhaglen yn cael eu hawdurdodi. Gellir cyfeirio ceisiadau o'r fath at y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
14.3
Ni chymeradwyir cais i newid rhaglen oni bai bod y myfyriwr yn gallu cwblhau’r rhaglen neu Ran Un y rhaglen (yn achos rhaglenni meistr safonol) o fewn y cyfnod disgwyliedig. Os bydd modiwl wedi’i addysgu a’i asesu erbyn i'r cais i newid rhaglen gael ei gymeradwyo, neu os bydd y myfyriwr wedi colli cymaint o sesiynau addysgu’r modiwl nes ei bod yn amhosibl iddo gwblhau’r asesiad, dylid cynghori’r myfyriwr i ohirio ei astudiaethau.
14.4
Ni fydd cyfnod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei estyn yn awtomatig ar gyfer myfyrwyr sy’n newid rhaglen ac mae angen iddynt ohirio eu hastudiaethau. Fodd bynnag, gall myfyrwyr o’r fath wneud cais i estyn eu hymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.
14.5
Ni chaiff myfyrwyr sy'n newid rhaglen roi mwy na'r nifer arferol o gynigion i gwblhau'r lefel (h.y. dau gynnig ar gyfer pob modiwl), felly:
- Bydd myfyrwyr sy’n newid rhaglen ar ôl methu modiwl yn eu rhaglen wreiddiol yn cael un cynnig arall yn unig mewn modiwlau amgen ar y rhaglen newydd.
- Os yw myfyriwr eisoes wedi rhoi cynnig ar fodiwl unwaith, dylai'r Gyfadran/Ysgol:
- Ystyried a oes modd trosglwyddo credydau ar gyfer y modiwlau hynny y llwyddwyd ynddynt.
- Hysbysu’r myfyriwr mai un cynnig arall yn unig fydd ganddo ar fodiwlau amgen a sicrhau nad yw cynigion o’r fath yn cael eu capio.
14.6
Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes wedi rhoi dau gynnig arni yn cael newid eu rhaglen astudio.
14.7
Os nad yw myfyriwr wedi rhoi cynnig ar fodiwlau yn ei raglen wreiddiol, caniateir dau gynnig i'r ymgeisydd yn ei raglen newydd.
14.8
Ni chaniateir i fyfyrwyr y gofynnwyd iddynt dynnu'n ôl neu adael rhaglen â Diploma neu Dystysgrif Ôl-raddedig lenwi ffurflen gais ar-lein i Newid Rhaglen. Fodd bynnag, ni fydd myfyrwyr o’r fath yn cael eu hatal rhag gwneud cais drwy’r llwybr derbyn arferol os ydynt am gael eu derbyn i raglen arall.
14.9
Rhaid i'r ffurflen ar-lein briodol ar gyfer gwneud cais i Newid Rhaglen gael ei llofnodi gan y myfyriwr, ei hawdurdodi gan yr aelod(au) priodol o staff academaidd a’i chyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg. Mae'r weithdrefn hon yn berthnasol i bawb sy'n newid rhaglen, gan gynnwys trosglwyddiadau mewnol i Gyfadran/Ysgol. Mae'r ffurflen ar-lein ar gael ar fewnrwyd y Brifysgol.
14.10
I fyfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae newid rhaglen yn amodol ar fod â fisa Llwybr Myfyriwr dilys. Cyn y caiff y myfyriwr newid i raglen arall, asesir a yw'r broses newid yn bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n berthnasol i astudio Llwybr Myfyrwyr; a yw'r rhaglen newydd yn bodloni “dyheadau gyrfa go iawn” y myfyriwr ac unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI). Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr, bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
15. Trosglwyddiadau Dilyniant
15.1
Gellir caniatáu i fyfyrwyr sy'n dilyn dyfarniad ôl-raddedig a addysgir, gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol (neu ei enwebai), drosglwyddo i ddyfarniad uwch yn yr un maes pwnc, ar sail y tabl isod:
|
Cymhwyster a enillwyd: |
Caniateir trosglwyddo i: |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig |
Diploma Ôl-raddedig neu Radd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir |
|
Diploma Ôl-raddedig |
Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir |
15.2
Yn achos myfyriwr sydd wedi cwblhau rhaglen, bydd trosglwyddiad o’r fath yn cael ei weithredu cyn cyflwyno’r dyfarniad.
16. Estyn Ymgeisiaeth
16.1
Mae gan bob rhaglen gyfnod ymgeisyddiaeth hwyaf posib. Nod pennu'r cyfnod hwyaf posib yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gwblhau eu gradd hyd yn oed os yw amgylchiadau wedi torri ar draws eu hastudiaethau am ba bynnag reswm. Rhaid i fyfyrwyr geisio cyflwyno’u rhaglen erbyn y dyddiadau cau a bennir ar gyfer y rhaglen. Bydd ymgeisyddiaeth yn dirwyn i ben (gan wahardd arholi) os na chwblheir y rhaglen o fewn yr amserlen a bennir gan y Brifysgol.
16.2
Gellir estyn y terfynau amser, ond achosion eithriadol yn unig, ac yn unol â’r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, ni chaniateir estyn terfynau amser oni bai am resymau tosturiol neu resymau sy'n ymwneud â salwch, anawsterau difrifol gartref neu ymrwymiadau proffesiynol eithriadol y gellir dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar y myfyriwr. Rhaid i'r Gyfadran/Ysgol gyflwyno achos llawn a rhesymegol, wedi'i gefnogi gan gynllun gwaith, tystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i gael eu hystyried gan y Gwasanaethau Addysg. Bydd achosion o'r fath yn cael eu prosesu'n weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
- Yn achos myfyrwyr rhan-amser sy’n nodi ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid i’r cais gael ei gyflwyno gyda chadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o’r llwyth gwaith eithriadol y mae’r myfyriwr wedi’i ysgwyddo ynghyd â datganiad sy’n nodi nad oedd modd rhagweld yr ymrwymiadau.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch fel y'u disgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.)
- Rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r myfyriwr o ganlyniad i’r salwch ac yn tybio bod yr estyniad y gwneir cais amdano yn briodol. Lle bynnag y bo modd, bydd datganiad o'r fath yn dilyn cyswllt uniongyrchol rhwng y myfyriwr a'r Gyfadran/Ysgol.
16.3
Rhaid cyfeirio ceisiadau am estyniadau drwy oruchwyliwr y myfyriwr neu, yn achos tystysgrifau ôl-raddedig a Diplomâu, drwy Gyfarwyddwr y rhaglen, i'r Gwasanaethau Addysg, lle bydd yr achos yn cael ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
16.4
Ni chaniateir estyniad i ymgeisyddiaeth myfyrwyr sy’n ailgyflwyno darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
16.5
Ni fydd ceisiadau am estyniad a gyflwynir gan fyfyrwyr gradd Ymchwil ar sail cofrestru cydamserol yn unig ar gyfer aelodau staff sydd wedi cofrestru ar PGCtHE, oherwydd gofyniad contractiol y PGCtHE fel amod o'u cyflogaeth yn cael eu caniatáu.
17. Lefel Astudio
17.1
Bydd y lefel astudio ar Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
18. Llawlyfrau
18.1
Bydd llawlyfr Cyfadran/Ysgol yn cael ei gyflwyno i bob myfyriwr pan fydd yn dechrau'r cyfnod astudio neu cyn hynny. Y manylion sy'n ofynnol ar gyfer y llawlyfr fydd y rhai a nodir yn nhempled y ddogfen ar gyfer Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol a gyhoeddwyd gan y Gwasanaethau Addysg.
19. Gohirio Astudiaethau
19.1
Ystyrir ceisiadau i ohirio astudiaethau yn unol â Rheoliadau Prifysgol Abertawe ynghylch Gohirio Astudiaethau.
20. Monitro Cynnydd a Phresenoldeb
20.1
Disgwylir i fyfyrwyr fynd i’r holl sesiynau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl maen nhw wedi dewis ei ddilyn.
20.2
Bydd presenoldeb yn cael ei fonitro yn unol â'r Polisi Monitro Ymgysylltiad ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir).
20.3
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy gynnal sesiynau trafod rheolaidd gyda thiwtoriaid a thrwy Fyrddau Arholi.
21. Absenoldeb Myfyrwyr
21.1
Os yw salwch wedi torri ar draws gwaith myfyriwr am gyfnod sy’n hwy na saith diwrnod, bydd rhaid i'r myfyriwr hysbysu’r Gyfadran/Ysgol yn ysgrifenedig a chyflwyno tystysgrif feddygol.
21.2
Mae'n ofynnol i fyfyriwr sydd wedi bod yn absennol o arholiad gyflwyno esboniad ysgrifenedig i'r Gyfadran/Ysgol yn ddi-oed ac o fewn pum diwrnod gwaith i ddyddiad yr arholiad. Yn achos salwch, bydd yn ofynnol i'r myfyriwr gyflwyno tystysgrif feddygol hefyd.
21.3
Dylai myfyrwyr nodi mai nhw sy'n gyfrifol am hysbysu eu Cyfadran/Hysgol, cyn gynted â phosibl, am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eu perfformiad, naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau, yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu. Ni ystyrir apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi’u dwyn i sylw’r Gyfadran/Ysgol briodol cyn i’r byrddau arholi gyfarfod.
22. Addasiadau Rhesymol
22.1
Mae'r Polisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Addysgu yn amlinellu ymagwedd y Brifysgol at Addasiadau Rhesymol.
Gall myfyrwyr ddatgelu anabledd ar unrhyw adeg drwy gydol eu rhaglen astudio. Gall myfyrwyr gael mynediad at gymorth heb dystiolaeth feddygol sy'n sail i anabledd wedi'i ddiagnosio, ond anogir tystiolaeth ategol gan y bydd yn cynorthwyo'r Brifysgol wrth benderfynu ar y cymorth mwyaf priodol.
Gall myfyrwyr ddatgelu anabledd mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gallai hyn gynnwys:
- Dweud wrth y Gwasanaethau Lles ac Anabledd yn uniongyrchol, naill ai fel ymgeisydd neu ar ôl cofrestru.
- Dweud wrth aelod o staff rhywle arall yn y brifysgol (er enghraifft, Tiwtor Personol y myfyriwr, darlithydd neu aelod o staff Hwb).
- Rhannu gwybodaeth drwy brosesau academaidd ac anacademaidd eraill (er enghraifft, drwy ddatgelu anghenion sy'n ymwneud â llety myfyrwyr neu fel rhan o gais am amgylchiadau esgusodol).
22.2
Os oes angen gwneud addasiadau i astudiaethau myfyriwr o ganlyniad i anabledd, cyflwr meddygol hirdymor, anhawster lles neu Anhawster Dysgu Penodol, dylai’r myfyriwr drafod ei ofynion gyda'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd i alluogi’r Brifysgol i gynnal asesiad llawn o anghenion y myfyriwr a sicrhau y caiff yr addasiadau priodol eu hargymell.
Mewn sefyllfaoedd brys a/neu ddifrifol, mae'n bosib y bydd aelod o staff academaidd neu aelod o staff Hwb yn cynnal asesiad yn unol â'r Polisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Addysgu.
22.3
Pan gytunir ar addasiad, y Gyfadran/yr Ysgol fydd yn gyfrifol am roi'r addasiad hwnnw ar waith.
22.4
Pan fo angen addasiadau ar gyfer asesiad (gan gynnwys arholiadau wyneb yn wyneb), dylai myfyrwyr, pryd bynnag y bo modd, ofyn am y rhain cyn y dyddiad cau a bennwyd er mwyn rhoi digon o amser i roi'r addasiadau ar waith.
Ni ellir gwarantu ceisiadau am addasiadau i asesiadau (gan gynnwys arholiadau wyneb yn wyneb) a wneir ar ôl y dyddiad cau a byddant yn dibynnu ar yr hyn sy'n rhesymol ac yn ymarferol i'w drefnu yn yr amser sydd ar gael.
Yn achos arholiadau wyneb yn wyneb, dylid ystyried asesiadau amgen yn hytrach nag amser ychwanegol pan fo hyd yr arholiad, amser ychwanegol a seibiannau (gyda'i gilydd) yn fwy na 4 awr a 22 munud.
23. Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu
23.1
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw rhoi gwybod i'r awdurdodau perthnasol h.y. cyflogwr, sefydliad partner a/neu Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) academaidd perthnasol yn y Brifysgol am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai fod angen ystyriaeth neu gymorth penodol ar gyfer asesiadau yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
23.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos dogfennaeth briodol i brofi eu hamgylchiadau. Rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn 5 diwrnod gwaith i'r asesiad gwreiddiol.
24. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa
24.1
Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae angen fisa arnynt i astudio yn y Brifysgol fod yn ymwybodol bod parhau i astudio yn y Brifysgol yn dibynnu ar fodloni amodau eu fisâu a'r terfynau amser a bennir gan Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). I gael rhagor o wybodaeth, gweler Fisâu a Mewnfudo - Prifysgol Abertawe.
24.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol mewn perthynas â statws cofrestru myfyriwr, ei berfformiad academaidd, cynnydd a dyfarniadau, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol ac ni chânt eu llywio gan gyfyngiadau fisa a therfynau amser a bennir gan UKRI. Fodd bynnag, mae parhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion y Brifysgol a meddu ar fisa ddilys. Dylai myfyrwyr sydd ag unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch eu fisâu e-bostio Cyngor ar Fisâu.
25. Cyflwyno Gwaith
25.1
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn pennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith i'w asesu. Mae'r Polisi Asesu, Marcio ac Adborth yn cynnwys gwybodaeth am amserlennu, cyflwyno a chyflwyno asesiad yn hwyr mewn perthynas â rhaglenni ar y campws a rhaglenni ar-lein yn unig.
26. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
26.1
Bydd yr holl arholiadau’n cael eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau Cynnal Arholiadau'r Brifysgol. Bydd y Bwrdd Arholi yn gweithredu yn unol â'r Rheoliadau Asesu ar gyfer Dyfarniadau Ôl-raddedig a Addysgir.
26.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a amlygir yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholi Allanol.
26.3
Rhaid bod gan diwtoriaid/arholwyr cyswllt statws proffesiynol amlwg diweddar neu gyfredol mewn maes ymarfer sydd â chysylltiad agos â’r rhaglen astudio.
26.4
Bydd curriculum vitae llawn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Addysg y Brifysgol er mwyn cymeradwyo statws Arholwr Cyswllt.
27. Arholiadau
27.1
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn y Sefydliad lle maen nhw wedi dilyn y rhaglen astudio, neu ar-lein os yw rhaglenni wedi cael eu cyflwyno ar-lein yn unig.
27.2
Gall unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn rhaglen astudio yn y Brifysgol wneud cais – ni waeth ai Saesneg neu Gymraeg yw prif iaith asesu’r rhaglen dan sylw – i gyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn Gymraeg neu Saesneg. Ymdrinnir â cheisiadau o’r fath yn unol â’r Canllawiau ar Asesu ac Arholi yn Gymraeg neu mewn Iaith Arall ar wahân i Iaith yr Addysgu.
27.3
Mewn achosion lle gellir tybio ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw Cymraeg/Saesneg am resymau academaidd, gall y Gyfadran/yr Ysgol ganiatáu hynny os oes achos rhesymegol wedi’i gyflwyno i’w gymeradwyo, fel arfer cyn i’r myfyriwr gofrestru i astudio. Serch hynny, ni fydd y Gyfadran/yr Ysgol yn cymeradwyo ceisiadau sy’n seiliedig ar ddiffyg gallu’r myfyriwr i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.
28. Trosglwyddo Credydau
28.1
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol. Dim ond credydau a enillwyd o fewn y pum mlynedd diwethaf y bydd y Brifysgol yn eu derbyn. Fel arfer, ni ddylai uchafswm y credydau a drosglwyddir gynrychioli mwy na thraean yr holl gredydau, sef 20 credyd ar gyfer Tystysgrifau ôl-raddedig, 40 credyd ar gyfer Diplomâu Ôl-raddedig a 60 credyd ar gyfer rhaglenni Meistr ôl-raddedig a Addysgir, gan gynnwys y rhaglenni Meistr Estynedig. Fodd bynnag, gellir caniatáu eithriadau, er enghraifft, oherwydd Rheoliadau Cyrff Proffesiynol.
Ni chaiff myfyriwr gyflwyno cais am eithriad credydau ar sail methiant academaidd blaenorol. Ni ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr y dyfarnwyd cymhwyster gadael iddynt oherwydd methiant academaidd ar y rhaglen honno.
28.2
O dan amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr a oedd wedi dilyn rhaglen Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir yn y Brifysgol o'r blaen, ac a ddewisodd adael y rhaglen â thystysgrif neu ddiploma ôl-raddedig yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
29. Derbyn i Radd
29.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cymhwyso i ennill eu dyfarniadau yn cael eu derbyn i’w graddau yn eu habsenoldeb drwy ordinhad Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Gwahoddir myfyrwyr i seremoni ddyfarnu yn ddiweddarach i ddathlu eu dyfarniad.
30. Apeliadau Academaidd
30.1
Gall myfyrwyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu weithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
31. Camymddwyn Academaidd
31.1
Caiff unrhyw honiad ynghylch arfer annheg ei ystyried yn unol â Gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
32. Addasrwydd i Ymarfer
32.1
Bydd honiadau yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer yn cael eu hystyried yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
33. Dyfarniadau Aegrotat
33.1
Bydd ceisiadau gan Gyfadrannau/Ysgolion am ddyfarniadau Aegrotat yn cael eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Dyfarnu Graddau Aegrotat.
34. Dyfarniadau Ar Ôl Marwolaeth
34.1
Caiff ceisiadau gan Gyfadrannau/Ysgolion am ddyfarniadau ar ôl marwolaeth eu hystyried yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth.