Graddau Ôl-raddedig ar y Cyd Prifysgol Abertawe ac IITM

Diffiniad o dermau ac esboniad

  1. Y rhaglen(ni)’: y rhaglen(ni) academaidd a gyflwynir gan Brifysgol Abertawe ac IITM, sy'n arwain at ddyfarnu MSc ar y cyd.
  2. ‘Sefydliad lletyol’: y sefydliad lle mae'r modiwl neu'r semester yn cael ei astudio.
  3. Modiwl(au) craidd’: y modiwlau y nodir eu bod yn ffurfio'r wybodaeth academaidd graidd ar gyfer y rhaglen. Rhaid ymgymryd â modiwlau craidd a'u pasio er mwyn symud ymlaen neu gwblhau'r rhaglen.
  4. ‘Modiwl(au) dewisol’: y modiwlau y gall myfyrwyr eu dewis i ffurfio pwysoliad credydau y rhaglen.
  5. ‘Modiwl(au) a addysgir’: y modiwlau sy'n cael eu haddysgu gan naill ai Brifysgol Abertawe neu IITM ac sy'n ffurfio'r rhaglen cyn yr astudiaeth dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd. Gall y rhain fod yn fodiwlau gorfodol neu ddewisol.
  6. ‘dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd’: astudiaeth hunangyfeiriedig (a gynhelir dan arweiniad goruchwylydd) sy'n gyfle i gymryd rhan mewn ymchwil estynedig ar un neu fwy o agweddau ar y maes llafur. Gall hyn fod yn un darn unigol (a elwir yn aml yn 'draethawd hir') neu sawl darn o waith asesedig. Fe'i diffinnir ar lefel rhaglen a bydd yn gyfwerth â'r ymdrech angenrheidiol i baratoi traethawd hir o hyd at 20,000 o eiriau. Ar gyfer y rhaglenni hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn sefyll arholiad viva voce fel rhan o'r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd. Bydd hyn yn dod i gyfanswm o 60 credyd Prifysgol Abertawe / 80 credyd IITM.
  7. ‘Credyd’: Mesur o lwyth sy'n gysylltiedig â'r oriau cyswllt yn system India a'r DU. Yn y rheoliadau hyn, defnyddir credydau Prifysgol Abertawe / credyd IITM i gyfeirio at y modiwlau yn y rhaglen.
  8. ‘Dilyn’: Cofrestru ymdrech i ymgymryd â modiwl, er enghraifft, dilyn modiwl am y tro cyntaf, dilyn modiwl am yr ail dro.
  9. ‘Ymgais’: Cofrestru ymdrech i ymgymryd â'r asesiad mewn modiwl, er enghraifft, ymgais gyntaf, ailsefyll/ail ymgais.
  10. ‘Ymgais gyntaf’: Lle caiff myfyriwr roi cynnig ar y modiwl eto yn ei gyfanrwydd oherwydd amgylchiadau esgusodol cymeradwy, gan gynnwys mynychu darlithoedd a seminarau. Nid yw'r marciau ar gyfer ymgais gyntaf wedi'u capio. Yn y bôn, ailsefyll y modiwl heb gofrestru ymgais.
  11. ‘Ailsefyll’: Pan fo myfyriwr yn rhoi cynnig ar yr asesiad ar gyfer modiwl a fethwyd eto, ar y cyfle nesaf sydd ar gael. Caiff myfyrwyr ailsefyll yr asesiad traethawd hir ac ni fydd marc yr ymgais ailsefyll wedi'i gapio.
  12. ‘Marciau dros dro’: marciau sy’n cael eu rhyddhau i fyfyrwyr cyn iddynt gael eu hadolygu gan y bwrdd arholi – mae'n bosibl i’r marciau gael eu haddasu gan y bwrdd arholi, felly gallent newid.
  13. ‘Marciau wedi’u cadarnhau’: marciau a ryddhawyd ar ôl cadarnhad gan y bwrdd arholi. Ni ddisgwylir i’r marciau newid.
  14. ‘Marciau wedi'u capio’: Fel arfer, mewn ymgais ailsefyll, bydd y marc wedi'i gapio ar y marc pasio (50% ar raddfa Prifysgol Abertawe). Mae modiwlau a addysgir ac a gyflwynir gan IITM yn caniatáu i fyfyrwyr sydd wedi cael gradd E ailsefyll yr asesiad a bydd yr ymgais ailsefyll wedi'i gapio ar radd D.
  15. ‘Matriciwleiddio’: derbyn myfyriwr i'r rhaglen yn ffurfiol, gan arwain at ddyfarniad gan Brifysgol Abertawe ac IITM.
  16. ‘Cronni' neu 'gyrraedd’: ennill credyd (pasio modiwlau).
  17. ‘Dyfarniad ymadael’: cydnabyddiaeth o gwblhau nifer o gredydau i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau rhaglen Meistr lawn