Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso isod, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o'r gweithgareddau hyn â phosib. Mae'r sesiynau sy'n orfodol ar gyfer myfyrwyr newydd wedi'u nodi ar yr amserlen. Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 28ain o Fedi. 

Dydd Mawrth 22ain o Fedi

10:00-11:00yb  Sgwrs Groeso **Orfodol**

MA Hanes, Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth - Ystafell 431, Llawr Pedwerydd, Adeilad Keir Hardie

MA Astudiaethau'r Oesoedd Canol - Ystafell 231, Ail Lawr, Adeilad Keir Hardie

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs.

 

3:30-5:30yp Digwyddiad Croeso yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Canolfan Celfyddydau Taliesin, Llawr Cyntaf 

Dewch i gwrdd â'ch academyddion, eich cyd-fyfyrwyr a chael hwyl. Bydd cwis, gwobrau i'w hennill a bydd y bar ar agor am luniaeth. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno

Dydd Iau 24ain o Fedi Dydd Gwener 25ain o Fedi