Dewch i adnabod eich ffordd o gwmpas ein campysau.
Gall cyfnod cyrraedd fod yn brysur ac yn gyffrous. Er mwyn eich helpu i ymgartrefu'n gyflym ac yn hyderus, mae'r dudalen we hon yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lywio'r campws a dod o hyd i'r prif wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael yn ystod y cyfnod cyrraedd.
Defnyddiwch y manylion a ddarperir ar y dudalen hon i ddod o hyd i gyrchfannau pwysig megis casglu cardiau adnabod myfyrwyr, casglu cardiau allwedd, a mannau cofrestru pwysig eraill o amgylch y campws. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth isod yn helpu i wneud eich profiad cyrraedd mor ddi-dor â phosibl.
Rydym yn argymell eich bod yn adolygu'r manylion cyn teithio ac yn cyfeirio'n ôl at y dudalen hon drwy gydol eich taith i sicrhau y gallwch ddod o hyd i'r lleoliadau sydd eu hangen arnoch yn hawdd. Croeso i Brifysgol Abertawe, ac edrychwn ymlaen at eich helpu i ddechrau ar eich profiad prifysgol.