Croeso I Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso! Mae rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos, a gobeithiwn y bydd yn eich hysbysu a'ch ysgogi wrth i chi ddechrau eich astudiaethau gyda ni. Bydd gennych ddigon o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu gyda'ch cyd-ddisgyblion a dysgu am yr holl gefnogaeth sydd ar gael i chi.

Mae eich amserlen Wythnos Groeso isod; gwnewch bob ymdrech i fynychu'r sesiynau sydd wedi'u marcio'n orfodol a chymryd rhan mewn cymaint o'r gweithgareddau eraill â phosib!

Sylwer hefyd ar sesiynau sydd ar gyfer grwpiau penodol o fyfyrwyr yn unig e.e., mae rhai i fyfyrwyr Y Gyfraith a Throseddeg yn unig ayyb.

Cymerwch sylw fod eich amserlen addysgu yn wahanol i'r amserlen Wythnos Groeso isod. Mae dysgu ac addysgu yn dechrau ddydd Llun 30ain Medi a byddwch yn darganfod sut i gael gafael ar eich amserlen addysgu yn ystod Yr Wythnos Groeso.

Dydd Iau 25ain Medi

11yb-12yp Sesiwn Blwyddyn mewn Ymarfer (Ystafell G36, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price) **Gorfodol i fyfyrwyr ar lwybr rhaglen Blwyddyn mewn Ymarfer yn unig**

Sesiwn wybodaeth i fyfyrwyr ar raglen Blwyddyn mewn Ymarfer.

12:00-2:00yp Cyfarfodydd Tiwtor Personol **Gorfodol**

Yn ystod y sesiwn 1 awr hon, byddwch yn cwrdd â'ch grŵp Tiwtor Personol am y tro cyntaf! Bydd eich Tiwtor Personol mewn cysylltiad trwy e-bost i roi gwybod i chi am yr amser a'r manylion penodol ar gyfer eich cyfarfod. Cynhelir cyfarfodydd hefyd ddydd Mawrth 23ain dim ond ar un o'r diwrnodau hyn y cewch gyfarfod tiwtor.

Bydd eich Tiwtor Personol mewn cysylltiad yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, a bydd yn gallu eich cefnogi gydag amrywiaeth o ymholiadau, gan gynnwys; cyfeirio at gefnogaeth fugeiliol, arweiniad academaidd, cyflogadwyedd a mwy. Gallwch ddarganfod pwy yw eich mentor a'i fanylion cyswllt trwy fewngofnodi i'ch tudalen Mewnrwyd unigol, o dan Fanylion y Cwrs > Cysylltiadau'r Cwrs.

2:00-3:00pm NEU 3:00-4:00pm Gweithdy: Cyflwyniad i Astudio'r Gyfraith **Gorfodol**

Sesiwn grŵp bychan yw hon, sy'n eich cyflwyno i astudio'r gyfraith ac yn rhoi cyfle i gydweithio gyda myfyrwyr eraill ar eich cwrs.

2:00-3:00pm

  • Grŵp 1: Ystafell Gynadledda 007, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 2: Ystafell Seminar 025, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 3: Ystafell Seminar 035, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 4: Ystafell Addysgu 120, Llawr Cyntaf, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 5: Ystafell Seminar 122, Llawr Cyntaf, Adeilad Richard Price

3:00-4:00pm

  • Grŵp 6: Ystafell Gynadledda 007, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 7: Ystafell Seminar 025, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 8: Ystafell Seminar 035, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 9: Ystafell Seminar 120, Llawr Cyntaf, Adeilad Richard Price
  • Grŵp 10: Ystafell Seminar 122, Llawr Cyntaf, Adeilad Richard Price

*Cysylltir â chi'n unigol drwy e-bost i'w neilltuo i grŵp ar gyfer y sesiwn hon*