Mae datblygiad ymchwilwyr yn fwy na mynychu gweithdai: mae'n ymwneud â’r holl ffyrdd rydych chi'n datblygu eich sgiliau a'ch effeithiolrwydd proffesiynol, academaidd, deallusol a phersonol i'ch galluogi i lwyddo fel ymchwilwyr, ac mewn unrhyw yrfa yn y dyfodol. Rydym wedi datblygu offer gwahanol i'ch cefnogi i feithrin ymagwedd gyfannol a myfyriol at eich datblygiad fel ymchwilydd: y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu (DNA) a'r Cynllun Cydnabod Datblygiad Ymchwilwyr.

Mae'r rhain yn weithgareddau ar wahân ond cyflenwol. Rydym yn eich annog i gwblhau DNA ar ddechrau eich astudiaethau er mwyn eich helpu i gynllunio eich gweithgareddau datblygiad (ac yn flynyddol wedi hynny os ydych chi'n dymuno), a'r Cynllun Cydnabod ar ddiwedd y flwyddyn, er mwyn gweithredu fel cofnod o'ch datblygiad ac i'ch atgoffa am eich camau nesaf. Fodd bynnag, gallwch hefyd gwblhau'r DNA yn unig, neu'r Cynllun Cydnabod yn unig.

 

Cam 1: Dadansoddiad o Anghenion Datblygu

Sut ydw i'n cwblhau'r DNA?

  • Lawrlwythwch y templed DNA o Canvas
  • Darllenwch y cyfarwyddiadau llawn a gweithiwch drwy bob adran o'r DNA
  • Trafodwch eich drafft gyda'ch goruchwyliwr/goruchwylwyr
  • Cyflwynwch gopi ar Canvas.

 

Cam 2: Cynllun Cydnabod Datblygiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig

Nod y cynllun newydd hwn yw amlygu gwerth ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyfleoedd datblygu i ymchwilwyr, eich helpu i olrhain eich datblygiad a chefnogi myfyrio ar werth ac effaith eich gweithgareddau datblygu. Gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio'n well ar eich anghenion datblygu eich hun, eich nodau yn y dyfodol a llwybrau i gyflawni'r rhain, gan ddatblygu eich ymarfer myfyriol hefyd, a fydd yn eich helpu wrth ymgeisio am swydd, grantiau neu gymwysterau yn y dyfodol. Er bod cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu yn werthfawr, mae hefyd yn bwysig i allu mynegi sut rydych chi wedi datblygu fel unigolyn, a'ch nodau ar gyfer y dyfodol. Mae cwblhau'r cynllun hwn yn gyfle i arddangos a chofnodi'r myfyrdodau hyn.

Rhaid i chi gwblhau o leiaf 40 awr o ddatblygiad ymchwilwyr mewn blwyddyn er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cydnabod datblygiad ymchwilwyr. Gall hyn gynnwys unrhyw weithgareddau sydd wedi cyfrannu at eich datblygiad fel ymchwilydd, ac nid yw'n gyfyngedig i weithdai a addysgir. Mae rhagor o arweiniad ar weithgareddau cymwys ar gael ar y Ffurflen Gydnabyddiaeth, y gallwch gael mynediad ati ar Canvas.

Efallai y byddwch chi eisiau cyfeirio at eich Dadansoddiad o Anghenion Datblygu wrth gynllunio eich gweithgareddau datblygu ymchwilwyr, neu ddefnyddio eich myfyrdodau o'r cynllun cydnabod hwn i lywio eich cynlluniau ar gyfer DNA yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid oes angen i chi gwblhau DNA er mwyn cwblhau'r cynllun cydnabod.

Sut rydw i'n cwblhau'r Ffurflen Gydnabyddiaeth?

  • Cadwch gofnod o'ch gweithgareddau datblygu ymchwilwyr drwy gydol y flwyddyn (isafswm o 40 awr)
  • Lawrlwythwch y Ffurflen Gydnabyddiaeth o Canvas yma [dolen]. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen i gofnodi drafft o'ch gweithgareddau datblygu, neu cadwch gofnod yn rhywle arall os ydych chi'n dymuno gwneud hynny.
  • Cwblhewch y Ffurflen Gydnabyddiaeth a'i chyflwyno i pgrtraining@abertawe.ac.uk ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'r 'flwyddyn' yn cyd-fynd â'ch cyfnod cofrestru (Hydref-Hydref, Ionawr-Ionawr, etc.)
  • Bydd y Tîm Datblygu Ymchwilwyr Ôl-raddedig yn adolygu eich ffurflen ac yn anfon tystysgrif atoch. Efallai y byddwn ni'n rhoi adborth neu'n awgrymu rhai newidiadau bach cyn gwneud hynny.