Ar gyfer blwyddyn academaidd newydd 2025-26, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn mapio'r cyfleoedd datblygu a ddarperir i ymchwilwyr ôl-raddedig yn Abertawe. Mae ein rhaglen bellach wedi'i mapio i Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae a ddiwygiwyd yn 2025, i'ch helpu chi fel ymchwilwyr i gynllunio, blaenoriaethu a monitro eich datblygiad eich hun.
Beth yw'r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr?
Mae'r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr yn amlinellu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau ymchwilwyr effeithiol ar bob cam o'u gyrfaoedd, gan gydnabod cyfraniad ymchwilwyr at gymdeithas, newid economaidd ac amgylcheddol ym myd addysg uwch a'r tu hwnt. Mae wedi'i greu gan Vitae, arweinydd ym maes datblygu ymchwilwyr, gyda mewnbwn gan ymchwilwyr ac ymarferwyr ar draws amrywiaeth o gamau gyrfa a sectorau.
Mae'r Fframwaith wedi'i rannu'n dair prif adran o'r enw 'parthau':
- Ymchwilydd: yn cynnwys y gwerthoedd a'r ymddygiadau personol a phroffesiynol y mae eu hangen ar ymchwilwyr
- Ymchwil: yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ymgymryd ag ymchwil a chyflawni canlyniadau
- Cymunedau ymchwil: yr wybodaeth a'r sgiliau i ymgysylltu a chydweithio ag eraill
Mae pob parth wedi'i rannu'n nifer o is-adrannau o'r enw 'disgrifwyr'. Mae'r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr wedi'i gynllunio i fod o berthnasedd eang i ymchwilwyr ar bob lefel a cham yn eu gyrfaoedd, ac ym mhob disgyblaeth, ond mae'n hyblyg hefyd. Wrth gwrs, bydd rhai disgrifwyr yn bwysicach i chi nag eraill, gan ddibynnu ar eich blaenoriaethau, eich uchelgeisiau, eich profiad blaenorol a galwadau eich ymchwil.
Sut rydym yn defnyddio'r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr yn Abertawe?
Mae ein holl weithdai ac adnoddau wedi'u mapio i barthau a disgrifwyr y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr. Mae gennym adnodd (y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu) hefyd i'ch helpu i ganolbwyntio ar eich anghenion datblygu unigol a chynllunio sut i ddiwallu'r rhain. Bydd y myfyrio strwythuredig hwn, a'r ffaith bod ein darpariaeth wedi'i mapio, yn eich helpu i ddeall ein darpariaeth a'i defnyddio mewn modd sy'n cyd-fynd â'ch anghenion chi.
Er enghraifft, wrth edrych ar y Fframwaith Datblygu Ymchwil, os penderfynwch yr hoffech chi ganolbwyntio ar wella eich sgiliau a'ch profiad ym maes ymgysylltu ac effaith (un o'r disgrifwyr yn y parth 'ymchwil') gallwch chwilio am weithdai a chyfleoedd a ddarperir gan y brifysgol sy'n cyd-fynd â'r disgrifydd hwn.
Efallai y byddwch yn sylweddoli bod angen i chi chwilio am gyfleoedd datblygu mwy arbenigol, y tu allan i'r brifysgol; bydd y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr a'r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu yn eich helpu i nodi'r meysydd hyn hefyd.
Cofiwch, ni fydd pob agwedd ar eich datblygiad ar ffurf gweithdai ffurfiol neu adnoddau hyfforddiant ar-lein. Gall mynd i ddigwyddiadau academaidd megis cynadleddau, ymwneud â rhwydweithiau neu bwyllgorau perthnasol, profiad ymarferol megis addysgu neu arddangos, darllen hunangyfeiriedig yn ogystal â chydweithredu neu drafodaethau â chymheiriaid i gyd fod yn rhan o'ch datblygiad. Rydym yn eich annog i ystyried eich datblygiad yn yr ystyr ehangaf posib, ac i gofnodi hyn a myfyrio arno'n rheolaidd.
Gallwch ddarllen mwy am y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr a gweld manylion y fframwaith llawn yma. Mae'n werth cofio nad yw'r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn unig, felly, er efallai nad yw rhai o’r disgrifwyr a'r manylion yn teimlo'n berthnasol iawn i chi ar yr adeg hon, gallent ddod yn bwysicach yn ddiweddarach yn eich gyrfa.