Mae cael eich canlyniadau'n broses gyflym, ac rydym wedi rhannu'r broses yn bedwar cam syml, a fydd yn eich helpu i lywio'r fewnrwyd a gwybod beth i edrych amdano wrth ddarllen eich canlyniadau.

Cyn cyhoeddi eich canlyniadau, byddwch yn cael gohebiaeth a fydd yn nodi pryd bydd eich canlyniadau'n cael eu cyhoeddi.

Cam 1 - Mewngofnodi a manylion y cwrs.

Screen shot of Swansea university intranet.

Unwaith rydych chi wedi mewngofnodi i'r fewnrwyd, defnyddiwch y panel i'r chwith o'ch llun proffil a dewiswch 'Manylion y Cwrs'.

Cam 2 - Cliciwch ar dab y modiwl.

Screen shot of Swansea university intranet.

Nawr rydych yn gallu gweld manylion eich cwrs, dewiswch dab y modiwl gyda'r flwyddyn bresennol.

Cam 3 - Canlyniadau, penderfyniad ac esboniad.

Screen shot of Swansea university intranet

Mae'r adran hon o'r dudalen yn eich galluogi i weld y canlynol; penderfyniad lefel, canlyniad ac esboniad o'ch canlyniad.

Cam 4 - manylion y modiwl.

Screen shot of Swansea university intranet.

Mae'r dudalen hon yn caniatáu ichi weld dadansoddiad o'r cydrannau asesu sy'n rhan o’r modiwl ac unrhyw ganlyniadau/graddau a ddyfarnwyd. Bydd y golwg estynedig hon hefyd yn dangos a oes angen asesiadau atodol er mwyn pasio'r modiwl.

Os gwelwch chi "~" mae'r rhain yn farciau dros dro yn amodol ar gadarnhad. Os gwelwch chi “!”, mae hyn yn golygu nad oes canlyniadau/gradd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer yr asesiad gofynnol hwn.