Ail‑wneud Lefel yw’ch Penderfyniad Academaidd

Ail‑wneud Lefel yw’ch Penderfyniad Academaidd. Mae hyn yn golygu eich bod wedi methu’ lefel astudio ac na allwch symud ymlaen i’r lefel nesaf . Mae’n ofynnol i chi felly ailadrodd y lefel eto yn ystod sesiwn academaidd nesa fel myfyriwr mewnol amser llawn a byddwch yn fforffedu unrhyw gredyd a gafwyd ar y lefel bresennol. Os oes angen gwybodaeth ar ffioedd dysgu arnoch, cysylltwch â’r studentfinance@swansea.ac.uk 

Mae pob canlyniad gohirio yn rhai dros dro, yn amodol ar gadarnhad gan y bwrdd arholiadau ar ol adolygu'r proffil canlyniadau llawn, felly, mae unrhyw ohiriad(au) a ganiatawyd yn flaenorol bellach wedi'u disodli gan y penderfyniad i ailadrodd y lefel.

Fel arall, os ydych wedi ennill credydau, gallwch gyflwyno cais i’ch Cyfadran/Ysgol i ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig fel ymgeisydd mewnol gan ddefnyddio’r ffurflen sydd ar gael yma. Dylid cyflwyno ceisiadau cyn cofrestru a fydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn ôl meini prawf llym felly fe’ch cynghorir i drafod hwn fel opsiwn gyda’ch Cyfadran/Ysgol o flaen llaw Bydd marciau ymgeiswyr ar Lefelau 5 a 6 (nad ydynt yn eu blwyddyn derfynol) a ganiateir i ail-wneud modiwlau a fethwyd yn unig fel ymgeiswyr mewnol yn cael eu capio ar y marc pasio (40%).

Rydym yn ymdrechu i brosesu pob cais i ail-astudio modiwl a fethwyd cyn dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.  Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gan yr Adran Cofnodio Myfyrwyr pan fydd eich cofnod wedi'i ddiweddaru.

Sylwch, os dewiswch ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig, mae'n ofynnol i chi ddilyn a phasio'r modiwlau a fethwyd gennych yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf cyn y gallwch symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.

Trawsnewid y Cwricwlwm - Os ydych chi’n dewis ail-wneud modiwlau a fethwyd yn unig, sylwer bod y Brifysgol mewn cyfnod o drawsnewid y cwricwlwm ac felly efallai bydd yn rhaid i chi ddilyn modiwl(au) eraill i'r rhai a fethwyd yn wreiddiol. Bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen yn gallu rhoi mwy o wybodaeth ichi am effaith hyn ar eich rhaglen astudio benodol. O ran y goblygiadau ariannol, os yw'r modiwl(au) 'newydd' y mae angen ichi eu dilyn yn cynnig credydau uwch na'r modiwlau gwreiddiol a fethwyd, bydd y ffïoedd credyd gwreiddiol yn berthnasol. Os bydd newidiadau i fodiwlau, bydd y brifysgol yn gwneud ei gorau i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar eich canlyniadau. 

Mae'n bwysig eich bod yn mynychu eich sesiynau addysgu wedi'u hamserlennu bob wythnos o'r semester. 

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am effaith hyn ar eich rhaglen astudio benodol, e-bostiwch Curriculumreview@abertawe.ac.uk Mae gwybodaeth bellach am Drawsnewid y Cwricwlwm ar gael yma ac mae Cwestiynau Cyffredin ar gael yma

Os ydych chi wedi pasio llai nag 20 o gredydau yn ystod y sesiwn academaidd, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â'ch Cyfadran/Ysgol i drafod ai parhau â'ch astudiaethau ar eich rhaglen bresennol yw'r dewis cywir i chi. Efallai yr hoffech chi drafod eich opsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r HWB drwy https://swanseauniversity.service-now.com/

Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen Gwybodaeth Canlyniadau.

Gwybodaeth Canlyniadau