Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso isod, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o'r gweithgareddau hyn â phosib. Mae'r sesiynau sy'n orfodol ar gyfer myfyrwyr newydd wedi'u nodi ar yr amserlen. Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 28ain o Fedi. 

Dydd Llun 21ain o Fedi

10:00-11:00yb Sgwrs Groeso *Orfodol*

Adeilad Glyndwr, Llawr Isel, Darlithfa C

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

2:30-4:30yp Caffi Hanes a'r Henfyd *Orfodol*

Tŷ Undeb, Pedwerydd Llawr, Ystafell 405

Sgwrsiau anffurfiol am bynciau'n ymwneud â'r byd hynafol a bywyd myfyrwyr yn Abertawe. Cyfarfod eich darlithwyr a myfyrwyr blwyddyn gyntaf arall sy'n dechrau cyrsiau'r byd hynafol. Bydd Cymdeithas y Byd Hynafol yno hefyd i ddweud mwy wrthych am fywyd myfyrwyr.


 

 

 

Dydd Mawrth 22ain o Fedi Dydd Iau 24ain o Fedi Dydd Gwener 25ain o Fedi