Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso isod, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o'r gweithgareddau hyn â phosib. Mae'r sesiynau sy'n orfodol ar gyfer myfyrwyr newydd wedi'u nodi ar yr amserlen. Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 28ain o Fedi. 

Dydd Llun 21ain o Fedi

10:00 - 11:00 Sgwrs Groeso *Orfodol*

Adeilad Wallace, Llawr Cyntaf, Ystafell 113

Cyfle i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen, a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs.

 

Dydd Mawrth 22ain o Fedi Dydd Gwener 25ain o FMedi

Sesiynau Pwnc

Mae'r sesiynau gorfodol uchod ar ddydd Llun a dydd Mawrth i chi yn unig fel myfyrwyr Dydd Haf Canolradd Dyniaethau.

Fodd bynnag, fel y soniwyd yn adran 'Rhestr Pwnc', pan fyddwch yn symud i Flwyddyn 1 o'ch rhaglen, byddwch yn ymuno â'ch pwnc 'cartref'. Felly, mae croeso mawr i chi fynychu unrhyw sesiynau croeso Blwyddyn 1 ar gyfer eich pwnc cartref ar gyfer gweddill yr wythnos os gallwch.

Efallai y cewch wahoddiad hefyd i gyfarfod gyda Thiwtoriaid Personol yr wythnos hon trwy e-bost gan aelod o'r staff academaidd o'ch pwnc cartref.

Gweler isod am restr o bynciau a dolenni i'w hamserlenni Wythnos Croeso Blwyddyn 1. Rydym yn eich annog i fynychu'r sesiynau hyn i ddod i adnabod y staff academaidd a myfyrwyr eraill o'ch pwnc cartref: