Mae dealltwriaeth a thryloywder ynghylch sut mae eich canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ac ystyr eich canlyniadau i chi yn hollbwysig i'r Brifysgol. Ceir isod wybodaeth allweddol a manwl a fydd yn eich helpu chi yn ystod cam nesaf eich taith academaidd.

Y broses ganlyniadau

  1. Marcio - Bydd aelod o staff academaidd priodol, cymwysedig yn marcio eich gwaith. Ni chaiff eich enw ei gynnwys yn y broses hon
  2. Cymedroli mewnol - rôl cymedrolwr yw gofyn a yw'r marciau a roddir yn deg, yn ddilys, yn ddibynadwy ac wedi'u cyfiawnhau. Dyma broses ar wahân i farcio
  3. Arholwyr allanol - adolygu samplau a goruchwylio'n ddiduedd ac yn annibynnol, gan sicrhau bod dyfarniadau'n cael eu rhoi yn unol â safonau cenedlaethol
  4. Bwrdd Arholi'r Ysgol/y Gyfadran - yna, bydd eich canlyniadau'n cael eu hanfon at fwrdd arholi'r Ysgol/y Gyfadran i wirio eich marciau dros dro
  5. Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol - yr adolygiad terfynol a chadarnhau eich canlyniadau
Two staff members working at a desk on their computers.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cafeatau i'r broses uchod ar gael.

Deall eich Canlyniadau